Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Ebrill 2019
Amser:
13.33 -
15.29
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5274
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC |
Tystion: |
Ansley Workman, RNIB Cymru Elin Edwards, Royal National Institute of Blind People Cymru Gareth Davies, RNIB Cymru |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Anne Beegan |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Katie Wyatt (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3.1 Cafodd yr aelodau dystiolaeth gan Ansley Workman, Cyfarwyddwr, Elin Haf Edwards, Rheolwr Materion Allanol, a Gareth Davies, Arweinydd Ymgysylltu â Rhanddeiliaid Iechyd Llygaid a chynrychiolydd cleifion o RNIB Cymru, fel rhan o'r ymchwiliad i reoli apwyntiadau cleifion allanol ledled Cymru.
3.2 Cytunodd RNIB Cymru i ddarparu gwybodaeth ychwanegol am:
· Cyllid ar gyfer Swyddogion Cyswllt clinigau llygaid ym mhob bwrdd iechyd;
· Strwythur staffio cyffredinol Canolfannau Diagnostig a Thriniaeth Opthalmeg; a
· Mwy o wybodaeth am gyflwyno’r cofnod electronig e-atgyfeirio i gleifion a'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd o ran delweddu a thechnoleg er mwyn caniatáu i bryderon ynghylch cleifion gael eu cyfeirio at ymgynghorwyr
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd.
6.1 Tynnodd Adam Price AC sylw’r Aelodau at y penderfyniad diweddar a wnaed gan yr Uchel Lys mewn perthynas â diswyddo Carl Sargeant. Mynegodd ei bryder fod rhai cwestiynau’n parhau ym meddyliau pobl o ran doethineb y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Oherwydd hyn, cynigiodd y dylai’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ofyn am gopi o adroddiad, a gafodd ei ddatgelu i’r wasg, a gynhaliwyd gan yr Ysgrifennydd Parhaol, ond gyda’r golygiadau priodol. Cefnogwyd ef gan Neil Hamilton AC a Mohammad Asghar AC.
6.2 Nid oedd Jenny Rathbone AC yn argyhoeddedig mai'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus oedd y Pwyllgor priodol i ofyn am y ddogfen hon, a gofynnodd i ohirio'r drafodaeth er mwyn caniatáu iddi ystyried penderfyniad yr Uchel Lys a chael cyngor priodol. Cafodd ei chefnogi gan Vikki Howells AC a Rhianon Passmore AC
6.3 Cefnogodd Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor, awgrym Jenny Rathbone, a chytunwyd y byddai'r eitem yn cael ei hychwanegu at yr agenda ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 29 Ebrill.